Eleni rydym yn dathlu 10 mlynedd ers dechrau Cam Cywir. Hoffwn ni ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi ein cefnogi ni hyd yma. Diolch yn fawr i’r holl gleientiaid sydd wedi defnyddio ein cwmni yn ystod eich taith a diolch yn fawr am adael i ni fod yn rhan o’ch bywyd, mae pob amser yn fraint. Diolch yn fawr hefyd, i’r rhai sydd wedi cyd-weithio gyda ni dros y blynyddoedd ac am ddarparu gwasaneth o’r safon uchaf, sydd wedi dod yn rhan annatod o ethos Cam Cywir.
Mae’n anodd credu bod 10 mlynedd wedi pasio ers i Claire a finnau sefydlu’r busnes. Mae nifer o bethau wedi newid yn ystod y cyfnod a nifer o heriau a sialensau. Gyda’r ddwy ohonom yn magu teulu ac hefyd dal yn gweithio yn y GIG, does byth cyfnod distaw! Ond rydym dal i fynd o nerth i nerth ac yn eiddgar i gario ymlaen i wasanethu yr angen am ffisiotherapi arbenigol stroc a niwrolegol. Diolch i chi gyd eto am yr holl gefnogaeth.
Claire a Heledd