Sefydlwyd Cam Cywir gan Claire a Heledd yn 2013. Roeddem yn gweld bod yna angen am ffisiotherapi niwrolegol a stroc arbenigol ac yn enwedig drwy’r Gymraeg. Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerfyrddin, Sir Gaerfyrddin. Ers hynny rydym wedi tyfu a sefydlu ein hunain fel enw dibynadwy gyda phobl yn hapus iawn i’n hargymell ni i eraill. Rydym wedi medru helpu nifer fawr o bobl dros y blynyddoedd i wireddu eu hamcanion ac rydym wrth ein bodd yn gweld ein cleifion yn cyflawni eu nodau.
Dyma ein tîm ffisiotherapi arbenigol niwrolegol a strôc sydd yn gweithio yn Ne Orllewin Cymru.
Mae ein ffisiotherapyddion niwrolegol wedi eu cofrestru gyda Chyngor Proffesiwn Iechyd a Gofal (HCPC).
Claire Richards BSc(Hons) MCSP – Ffisiotherapydd
Mae Claire wedi bod yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ers 2006. Mae wedi bod yn arbenigo mewn ffisiotherapi niwrolegol a strôc ers 2008. Ei diddordeb pennaf yw trin cleifion sydd wedi cael strôc. Mae ganddi brofiad helaeth o drin y math yma o gleifion ynghyd â chyflyrau niwrolegol eraill. Mae yn aelod o Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (MCSP); a Chymdeithas Ffisiotherapyddion Strôc Cymru (WAPS).
Heledd Tomos BSc(Hons) MCSP – Ffisiotherapydd
Ers graddio fel ffisiotherapydd yn 2006 mae Heledd wedi bod yn gweithio yn y GIG ac wedi derbyn profiad helaeth mewn nifer o feysydd o fewn ffisiotherapi. Ers 2009 mae wedi arbenigo mewn niwroleg. Mae ganddi phrofiad o weithio mewn adran adferiad niwrolegol, adran llawdriniaeth niwrolegol, uned strôc, adran glaf allanol niwrolegol ac yn y gymuned. Mae Heledd hefyd wedi’i hyfforddi mewn aciwbigo. Mae yn aelod o Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (MCSP); Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapyddion mewn Niwroleg (ACPIN); a Chymdeithas Siartredig Ffisiotherapyddion mewn Aciwbigo (AACP).
June Morris – Technegydd Ffisiotherapi
Mae June wedi bod yn gweithio yn y GIG ers dros 20 mlynedd. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gydag amrywiaeth o gyflyrau. Mae gan June ddiddordeb mewn strôc, adferiad cyffredinol, adferiad yn y cartref ac mae gwella cyflwr bywyd claf yn bwysig iawn iddi. Mae June wedi cwblhau nifer o gyrsiau technegydd ffisiotherapi mewn strôc a niwroleg. Yn 2020 gwnaeth June cyflawni cymhwyster Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Ffisiotherapi.