Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau gofal sy’n ganolog i’r claf. Gallwch greu eich goliau eich hun a medrwn ni eich helpu i’w cyflawni.
Mae yna nifer o resymau pam y dylech ystyried defnyddio ein gwasanaeth:
- Ein ffocws ni yw eich blaenoriaethau chi.
- Rydym yn arbenigwyr yn trin holl agweddau adferiad corfforol.
- Rydym wedi cyflawni cyrsiau ffisiotherapi arbenigol niwrolegol ôl-raddedig.
- Rydym wedi ymrwymo i gadw datblygu yn broffesiynol ac i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf.
- Rydym yn dîm sy’n cefnogi ein gilydd ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd.
- Rydym yn cynnig gwasanaeth yn ein clinig neu yn eich cartref.
- Rydym yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.