Darllenwch yr adborth oddi wrth rai o’n cleintiaid…
“Cyngor a chymorth gwych trwy’r Gymraeg. Ffisios amyneddgar sydd wastad yn gwenu ac yn deall sut orau i helpu. Gwasanaeth arbennig.” Rosalind
“Gwnes wario 10 wythnos yn yr ysbyty ar ôl cael fy nharo yn wael gyda fy nghyflwr niwrolegol. Pan es i adref roedd yn frawychus. Yn y misoedd cynt roeddwn yn hollol annibynnol ac yn dwlu ar fywyd yn yr awyr iach wedyn roeddwn yn gyfyngedig i’r tŷ ac yn cerdded yn araf gyda fframyn cerdded. “A fyddai’n gwella yn ôl i normal?” “Pam fod hyn wedi digwydd i mi?” “A fydda i byth yn cerdded fel yr oeddwn i gynt?” Rwy’n lwcus fod gennyf gymroth fy nheulu sydd wedi fy helpu yn ystod fy ngwellhad, ond roedd gwir angen ffisio niwro arnai i ddod i fy nghartref ar gyfer adferiad arbenigol niwrolegol. Dyna pryd gwnaeth fy merch gysylltu gyda Cam Cywir a dyna pryd nes i wir ddechrau gwella. Daeth Claire i fy ngweld i bob wythnos, mae ganddi ffordd mor hyfryd ac yn rhoi llawer o gymhelliant. Roeddem yn gosod goliau gyda’n gilydd yn aml ac roedd hyn yn gymhelliant ymhellach. Roeddwn yn benderfynol o wella a dod yn ôl i normal. Nawr 6 mis ymlaen rwy’n cerdded gyda ffon ac yn nawr yn mentro allan ychydig gyda fy nheulu. Cam Cywir a ddaeth â mi yma! Mae genai ychydyig o ffordd i fynd eto a gyda sgiliau arbenigol ffisiotherapi Claire rwy’n siŵr y gwnaf gadw gwella. Diolch Cam Cywir.” Anne
“Tair blynedd yn ôl roeddwn yn sâl yn yr ysbyty ac roedd yn rhaid i fi aros yna am gyfnod o 16 wythnos, ac yn ystod y cyfnod collais ddefnydd o fy nghoesau. Oherwydd hyn roeddwn yn gorfod cael fy nghodi mewn hoist o’r gwely i’r tŷ bach ac i’r gadair. Pan nes i adael yr ysbyty cefais fy nghodi mewn hoist i mewn i gadair arbennig a fe ddes i adref mewn ambiwlans lle’r oedd gofalwyr yn fy nisgwyl. Cefais ffisiotherapi gymunedol yn dod ataf unwaith yr wythnos am tua 4 mis ac yna holais Cam Cywir i alw a rhoi triniaeth ychwanegol. O ganlyniad i’r triniaeth oddi wrthynt gwnes i yn raddol wella a llawer yn fwy na beth bydden i wedi gwneud hebddynt. Rwyf wedi gweld y merched ifanc yn broffesiynol iawn, yn ddeallus ac yn ddymunol. Gyda’u triniaeth parhaus rwyf nawr yn gallu cerdded ychydig gyda help ffyn cerdded, mae hyn i gyd lawr i’w gwaith caled nhw ac heb eu help nhw ni fyddem yn gallu cerdded cystal ac ydwyf heddiw ac ni fyddem yn oedi dim wrth argymell y cwmni yma i unrhyw un.” Bryan
“Cefais ddiagnosis o glefyd Parkinson tair mlynedd a hanner yn ôl pan yn 50 oed ac ar ôl darllen llawer ar y pwnc ar y pryd, gwelais mai un o’r pethau gorau y fedrwn gwneud dros fy hun oedd ymarfer. Yn fuan ar ôl y diagnosis cefais un cwrs ffisiotherapi NHS o 6 sesiwn – roedd yn dda iawn, ond nid yn agos at fod yn ddigon, a sylweddolais y byddai yn fuddiol i mi gael cefnogaeth ffisiotherapi hir dymor er mwyn fy helpu i reoli symptomau symudedd, stiffrwydd a balans sydd gennyf. Mae cael rhai sesiynnau ffisiotherapi a chario ymlaen yr ymarferion fy hunan adref yn allweddol, ond yn bwysicach fyth i mi yw cael cefnogaeth hir dymor, cyson ffisiotherapi er mwyn cadw llygaid ar fy symptomau ac fy helpu i fynd i’r afael â phroblemau yn gynnar a gyda phroblemau penodol eraill o dro i dro. Yn ffodus i mi darganfyddais Cam Cywir yn gynnar iawn ar ôl fy niagnosis ac rwyf wedi bod yn derbyn cymorth a help ffisiotherapi ganddynt ers tua tair mlynedd. Mae Heledd a Claire yn darparu gwasanaeth ffisiotherapi proffesiynnol a chyfeillgar iawn. Maent yn deall yn gwmws sut mae Parkinsons yn fy effeithio ac yn gwybod sut i’m helpu. Rwy’n argymell yn fawr y ffisiotherapyddion arbennig sydd gyda Cam Cywir, maent wedi fy helpu yn enfawr ac yn dal i wneud. Maent yn bwysig iawn i mi i helpu rheoli clefyd Parkinson ac ni fydden i heb eu gwasanaeth.” S.H.
“Cefais strôc ar ôl dyraniad rhydweli fertebrol (vertebral artery dissection) yn mis Awst 2015. Mae hwn strôc anarferol iawn sydd wedi newid fy myd gan effeithio fy symudedd, cydbwysedd a lleferydd gan effeithio ar ochr chwith fy nghorff. Cefais Ffisiotherapi am 3 mis tra’n Ysbyty Glangwili, yn ogystal a therapi galwedigaethol, i helpu ail-ddysgu fy nghyhyrau a nerfau i helpu fy symudedd a chydbwysedd yn dilyn y strôc. Ar ôl gadael yr ysbyty gwnaeth ffisiotherapi ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda gario ymlaen a phan daeth y gwasanaeth hyn i ben dechreuais sesiynau ffisio gyda Cam Cywir.
Mae Cam Cywir wedi bod yn darparu gofal ffisio arbenigol arbennig o’r dechrau. Ers cael Indeg, Heledd a Claire fel ffisiotherapyddion rydw i wedi gweld cynnydd aruthrol ar ôl bob sesiwn sydd yn cael effaith anferthol ar fy nhasgau bob dydd. Ym mhob sessiwn maent yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus, yn egluro popeth yn drwyadl ac yn rhoi ymarferion i mi wneud rhwng sesiynau. Mae ganddynt ddealltwriaeth helaeth o fy ngallu, gan olygu eu bod yn teilwra bob sesiwn i fy anghenion a’m gallu a’u gwneud yn hwyl. Mae’r cymorth a’r amynedd maent wedi rhoi i mi wedi bod yn rhagorol. Gwnes adael yr ysbyty gyda symudedd a chydbwysedd cyfyngedig. Drwy sesiynnau ffisiotherapi dwys a sesiynau yn y pwll therapi dwr rydw i nawr yn gallu cerdded heb help gan ddefnyddio cyfarpar am bellteroedd byr. Efallai nad yw hwn yn swnio’n llawer ond mae hyn wedi bod yn daith ac mae’n cario ymlaen i fod yn daith faith. Mae gwella ar ôl strôc yn broses araf ond rwy’n hynod o hapus i gael cymorth Cam Cywir achos hebddynt ni fydden i wedi gwneud gymaint o gynnydd ac y rydwyf wedi hyd yma, ac rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda Indeg, Heledd a Claire yn y dyfodol i wella gymynt ac rwy’n gallu.” David