Dyma Buddug, aelod newydd i’n tim

Dyma Buddug, aelod newydd i’n tim

Graddiodd Buddug yn 2016 ac mae wedi bod yn gweithio yn y GIG ers hynny, gan weithio mewn amryw o leoliadau. Ers 2019 mae Buddug wedi ennyn diddordeb yn ffisiotherapi Niwrolegol ac mae hefyd wedi bod yn gweithio gyda oedolion gydag anghenion arbennig. Mae’n aelod o Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapyddion, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapyddion mewn Niwroleg (ACPIN) a Chymdeithas Siartredig Ffisiotherapyddion ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu.