Pam Ein Dewis Ni?

stepping

Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau gofal sy’n ganolog i’r claf. Gallwch greu eich goliau eich hun a medrwn ni eich helpu i’w cyflawni.

Mae yna nifer o resymau pam y dylech ystyried defnyddio ein gwasanaeth:

  • Ein ffocws ni yw eich blaenoriaethau chi.
  • Rydym yn arbenigwyr yn trin holl agweddau adferiad corfforol.
  • Rydym wedi cyflawni cyrsiau ffisiotherapi arbenigol niwrolegol ôl-raddedig.
  • Rydym wedi ymrwymo i gadw datblygu yn broffesiynol ac i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf.
  • Rydym yn dîm sy’n cefnogi ein gilydd ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd.
  • Rydym yn cynnig gwasanaeth yn ein clinig neu yn eich cartref.
  • Rydym yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.