Ffisiotherapi Niwrolegol a Strôc

Rydym yn trin cleifion gydag amryw o gyflyrau niwrolegol, gan gynnwys strôc, afiechyd Parkinson, sglerosis ymledol, anafiadau pen, anafiadau llinyn y cefn a phroblemau cerdded a chydbwysedd. Rydym yn gweithio dros De Orllewin Cymru. Fedrwn eich trin yn ein clinig neu yn eich cartref.

 

Cysylltwch â ni i wneud apwyntiad

Cysylltwch â ni

Rydym i gyd yn brofiadol gyda sgiliau arbenigol o drin cleifion gyda phroblemau niwrolegol. Rydym yn trin cleifion sydd ag amrywiaeth o broblemau fel problemau symudiad, osgo, swyddogaeth a phoen. Mae ein tîm o ffisiotherapyddion niwrolegol yn asesu a thrin cleifion gan gynnig cyngor a chymorth. Ein nod yw helpu pobl gyda chyflyrau niwrolegol i fyw bywyd ychydig yn haws gan wella ansawdd eu bywyd trwy wella symudiad, adfer hyder ac annibyniaeth.

Caerfyrddin yw ein lleoliad ac rydym yn gweithio o amgylch Sir Gaerfyrddin yn bennaf. Rydym yn gallu cynnig apwyntiadau yn ein clinig sydd yn nref Caerfyrddin. Medrwn ddod i’ch cartref yn ddibynnol ar argaeledd. Rydym hefyd yn trin ein cleifion mewn amryw o leoliadau sydd yn addas iddynt fel mewn campfa lleol, pwll hydrotherapi ac allan yn y gymuned.